Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Medi 2016
Amser: 09.15 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3705
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Jenkins AC (Cadeirydd) Hannah Blythyn AC Suzy Davies AC Neil Hamilton AC Dai Lloyd AC Jeremy Miles AC Eluned Morgan AC (yn lle Dawn Bowden AC) Lee Waters AC |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Llywodraeth Cymru Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Huw Gapper, Comisiynydd y Gymraeg Paul Kindred, Llywodraeth Cymru Peter Owen, Llywodraeth Cymru Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Bethan Webb, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Alys Thomas (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden. Roedd Eluned Morgan yn dirprwyo.
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3.1 Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor sesiwn wybodaeth gyfreithiol ar Fil Cymru.
4.1 Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor a chytunodd i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
Ø Cymru Hanesyddol - sut y bydd yn gweithio a beth fydd ei gylch gorchwyl;
Ø Y cynllun newydd ar gyfer amgueddfeydd yng Cymru;
Ø Y rhaglenni 'Fusion' a 'celfyddydau a dysgu creadigol' ac;
Ø Y 'Fforwm Cyfryngau', gan gynnwys ei flaenraglen waith.
5.1 Ymatebodd swyddogion o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
6.1 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor a chytunodd i:
Ø Ddarparu gwybodaeth bellach ar yr amserlen ar gyfer y strategaeth iaith Gymraeg;
Ø Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddarparu nodyn ar gylch gorchwyl Adolygiad Donaldson mewn perthynas â'r continwwm iaith Gymraeg drwy addysg;
Ø Darparu gwybodaeth bellach ar rannu'r cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg rhwng y Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
7.1 Nododd Aelodau'r Pwyllgor y papur.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd.